Numbers 10

Yr Utgyrn Arian

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 2“Gwnewch ddau utgorn arian – gwaith morthwyl. Maen nhw i gael eu defnyddio i alw'r bobl at ei gilydd, ac i alw'r gwersyll i symud. 3Pan mae'r ddau utgorn yn cael eu canu gyda'i gilydd bydd y bobl yn gwybod eu bod i gasglu o flaen mynedfa Pabell Presenoldeb Duw. 4Ond os mai un utgorn sy'n canu, dim ond arweinwyr llwythau Israel sydd i ddod. 5Pan mae un nodyn hir yn cael ei seinio, mae'r rhai sy'n gwersylla i'r dwyrain o'r Tabernacl i symud allan. 6Wedyn pan mae nodyn hir arall yn cael ei seinio, mae'r rhai sy'n gwersylla ar yr ochr ddeheuol i'w dilyn. Y nodyn hir ydy'r arwydd eu bod i symud allan. 7Ond i alw pawb at ei gilydd rhaid canu nodau gwahanol. 8Meibion Aaron, yr offeiriaid, sydd i ganu'r utgyrn. A dyna fydd y drefn bob amser, ar hyd y cenedlaethau. 9Ar ôl i chi gyrraedd eich gwlad, os byddwch chi'n mynd i ryfel yn erbyn eich gelynion, rhaid seinio ffanffer ar yr utgyrn yma. Wedyn bydd yr Arglwydd eich Duw yn cofio amdanoch chi ac yn eich achub chi o afael eich gelynion.

10“Canwch yr utgyrn hefyd ar yr adegau hynny pan fyddwch chi'n dathlu – ar y Gwyliau blynyddol ac ar ddechrau pob mis pan fyddwch chi'n cyflwyno eich offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r Arglwydd. Bydd yr utgyrn yn eich atgoffa chi i gadw'ch meddyliau ar Dduw. Fi ydy'r Arglwydd eich Duw chi.”

Pobl Israel yn symud y gwersyll

11Ar ddechrau'r ail flwyddyn wedi i bobl Israel ddod allan o'r Aifft (ar yr ugeinfed diwrnod o'r ail fis) dyma'r cwmwl yn codi oddi ar dabernacl y dystiolaeth. 12Felly dyma bobl Israel yn cychwyn ar eu taith o anialwch Sinai. Ac yn y diwedd dyma'r cwmwl yn aros yn anialwch Paran. 13Hwn oedd y tro cyntaf iddyn nhw symud, fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrth Moses.

14Y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Jwda aeth gyntaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Jwda dan arweiniad Nachshon fab Aminadab. 15Wedyn roedd Nethanel fab Tswár yn arwain llwyth Issachar, 16ac Eliab fab Chelon yn arwain llwyth Sabulon.
17Nesaf, dyma'r Tabernacl yn cael ei dynnu i lawr. A dyma'r Gershoniaid a'r Merariaid, oedd yn cario'r Tabernacl, yn mynd allan.
18Y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Reuben aeth nesaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Reuben dan arweiniad Elisur fab Shedeŵr. 19Wedyn roedd Shelwmiel fab Swrishadai yn arwain llwyth Simeon, 20ac Eliasaff fab Dewel yn arwain llwyth Gad.
21Yna dyma'r Cohathiaid, oedd yn cario offer y cysegr, yn eu dilyn. (Roedd y Tabernacl i fod i gael ei godi eto cyn iddyn nhw gyrraedd.)
22Y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Effraim oedd nesaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Effraim dan arweiniad Elishama fab Amihwd. 23Wedyn roedd Gamaliel fab Pedatswr yn arwain llwyth Manasse, 24ac Abidan fab Gideoni yn arwain llwyth Benjamin.
25Ac yna'n olaf, y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Dan. Roedd adrannau llwyth Dan dan arweiniad Achieser fab Amishadai. 26Wedyn roedd Pagiel fab Ochran yn arwain llwyth Asher, 27ac Achira fab Enan yn arwain llwyth Nafftali.

28Dyna'r drefn aeth pobl Israel allan, adran wrth adran. A dyma nhw'n teithio yn eu blaenau.

29Dyma Moses yn dweud wrth Chobab (mab i Reuel o Midian, tad-yng-nghyfraith Moses), “Dŷn ni ar ein ffordd i'r wlad mae'r Arglwydd wedi addo ei rhoi i ni. Tyrd gyda ni. Byddwn ni'n dy drin di'n dda. Mae'r Arglwydd wedi addo pethau gwych i bobl Israel.” 30Ond atebodd Chobab, “Na, dw i ddim am ddod. Dw i am fynd adre i'm gwlad, at fy mhobl fy hun.”

31“Paid gadael ni,” meddai Moses, “Gelli di ein tywys ni drwy'r anialwch. Ti'n gwybod am y lleoedd gorau i wersylla. 32Os doi di, byddi di'n cael rhannu'r holl bethau da sydd gan yr Arglwydd ar ein cyfer ni.”

33Felly dyma nhw'n gadael mynydd yr Arglwydd ac yn teithio am dri diwrnod. Ac roedd Arch ymrwymiad yr Arglwydd yn mynd o'u blaenau nhw, i ddangos iddyn nhw ble i stopio a gorffwys. 34Wrth iddyn nhw adael y gwersyll, roedd cwmwl yr Arglwydd uwch eu pennau. 35Pan oedd yr Arch yn dechrau symud, byddai Moses yn gweiddi:

“Cod, Arglwydd!
Boed i dy elynion gael eu gwasgaru,
a'r rhai sydd yn dy erbyn ddianc oddi wrthot ti!”

36A pan oedd yr Arch yn cael ei rhoi i lawr, byddai'n gweiddi:

“Gorffwys, Arglwydd
gyda'r miloedd ar filoedd o bobl Israel!”
Copyright information for CYM